Roedd cynhyrchu a dosbarthu’r darnau arian degol yn sialens logistaidd enfawr i’r Bathdy Brenhinol.

  •  

Roedd rhaid hyfforddi gweithwyr newydd yn Llantrisant a gosod a phrofi offer er mwyn cyrraedd y targedau roedd angen ar gyfer D Day yn 1971. Er hynny, cafodd y stôr o arian degol ei gyfawni yn gynt na’r disgwyl.

 

Watch the construction the new Royal mint

John Humphrys yn ymweld â’r ffatri hyfforddiant ym Mhen-yBont, Darperir y ffilm gan ITV Cymru Wales

Hyfforddi’r gweithwyr

Ni ddechreuodd y diwydiant arian degol yng Nghymru gydag agoriad y safle yn Llantrisant yn Rhagfyr 1968. Dros flwyddyn yn gynt, roedd hyfforddiant y gweithwyr yng Nghymru wedi dechrau. Roedd eisioes cynlluniau er mwyn agor ffatri hyfforddi ym Mhen-y-Bont ond, er mwyn osgoi oedi, cafodd ddau wasg eu gosod yng Nghanolfan Hyfforddi y Llywodraeth yng Nghaerdydd.

Ffigwr pwysig yn y ffatri ym Mhen-y-Bont oedd Cyril Laws, oedd wedi gweithio yn Tower Hill am 30 blynedd cyn symud i Llantrisant. Fe a nifer bach o staff allweddol o Lundain oedd rhai o’r gweithwyr cyntaf i ail-leoli i Nghymru er mwyn dysgu gweithwyr newydd y sgiliau i streicio darnau arian.

Roedd cynhyrchiad cynnar ym Mhen-y-Bont yn gyfyngiedig i ddarnau 1/2d y Deyrnas Unedig, ond unwaith i’r ffatri dod yn hollol sefydlog, newidodd y system er mwyn creu arian degol. Erbyn i’r Frenhines agor y gangen ddegol newydd yn Llantrisant yn Rhagfyr 1968, roedd y staff o dros 200 ym Mhen-y-Bont wedi, yn dilyn hyfforddiant, cynhyrchu dros 250 miliwn o ddarnau arian degol. Dechreuodd gweithwyr symud o Ben-y-Bont i Lantrisant ar ddiwedd 1968.

Cynhyrchu efydd degol

“Mae’r 1/2c newydd yn gyfatebol i 1.2d, mae’r 1c gwerth 2.4d ac mae’r 2c yn gwerth 4.8d o dan ein system ariannol presennol.”

South Wales Evening Post, 11 Mehefin 1968

Y dasg gyntaf yn Llantrisant oedd i greu stôr o’r darnau arian efydd newydd mewn paratoad ar gyfer diwrnod newid i’r system degol yn 1971. Roedd y systemau llwytho awtomatig yn yr adeiladau bathu ac anelio newydd yn wahanol iawn i’r hen arferion yn Llundain, lle oedd sawl peiriant semi-awtomatig yn bathu arian gyda dosbarthiad â dwylo.

Roedd technoleg newydd yn Llantrisant yn meddwl bod y dulliau yma yn gallu cael eu perfformio yn awtomatig. Roedd cludwyr bwced sigledig, codwyr parhaol, beltiau cludo a hopranau crynswth yn mudo gweigion i fewn i hopranau oedd yn eu ffiltro yn uniongyrchol i’r gweisg bathu er mwyn cael eu streicio gyda phatrymau degol.

Trwy wneud hyn i gyd, erbyn Awst 1969, roedd Llantrisant yn gallu cyrraedd y targed o greu 50 miliwn o ddarnau arian degol pob wythnos.

Pacio, Treiglo a Lapio

Roedd angen ffordd newydd o bacio er mwyn i’r darnau arian cael eu dosbarthu yn effeithlon. Cafodd y darnau arian eu lapio’n awtomatig mewn ffilm tryloyw oedd wedyn yn cael ei leihau gyda gwres er mwyn ffurfio rholyn silindraidd tyn. Cafodd y rholiau hyn eu cludo ar beiriant cludo trwy periannau pwyso awtomatig at orsafoedd pacio, lle cawsant eu pacio mewn cartonau cardfwrdd, gyda phob un yn cynnwys gwerth £20 o ddarnau arian.

Y 12 peiriant lapio oedd y peirianwaith unigol fwyaf o’r fath yn y byd. Erbyn diwedd 1969 roeddent yn rhedeg yn ddibynadwy ac yn chynhyrchu mwy na 45 miliwn o ddarnau arian pob wythnos.

 

Eich hatgofion

Oes gennych chi unrhyw luniau o’r 50 mlynedd diwethaf? Ychwanegwch eich hatgofion a dewch yn ran o’n archif.

Rhannwch eich hatgofion

 

Pobl

Dysgwch am y pobl oedd yn hanfodol i’r Bathdy yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn Llantrisant.

Digwyddiadau

Dysgwch am y digwyddiadau yn nodedig i ddatblygiad y Bathdy yn Ne Cymru.

Cynhyrchiad

Dysgwch sut gafodd yr arian degol newydd ei gynhyrchu a dosbarthu.