The Royal Mint Museum uses cookies to ensure we give you the best experience on our website. If you continue to use our website we assume that you are happy to receive these cookies. Cookie policy.
Ok

Dewis y lleoliad

Erbyn yr 1960au, roedd safle’r Bathdy Brenhinol yn Llundain yn leoliad anaddas gan fod yn gyfwng am le ac yn llawn hen gyfarpar. Roedd wedi bod angen ailadeiladu am rhai flynyddoedd ond pan ddaeth y cyhoeddiad yn 1966 bod Prydain am newid i system arian degol, gyda’r angen am gannoedd o filiynau o ddarnau arian newydd, roedd angen gwneud rhywbeth. Nid oedd ehangu’r adeilad yn Tower Hill yn bosib ac felly daeth y penderfyniad i ddod o hyd i leoliad newydd tu allan i Lundain. Erbyn Ionawr 1967, roedd 20 safle wedi cael eu hystyried ac yn y diwedd roedd restr fer yn cynnwys saith lleoliad.

Ar y restr hon oedd Llantrisant yn Ne Cymru, dim ond ychydig o filltiroedd o Gaerdydd. Roedd hwn yn ddigon agos i Lundain i demtio staff i ail-leoli, gyda digon o le a digon o weithwyr ar gael. Yn ychwanegol, roedd gan y prosiect cefnogaeth James Callaghan, oedd fel Canghellor y Trysorlys, hefyd yn Feistr y Bathdy, ac hefyd yn AS i Gaerdydd. Dywedodd bod dim ots ganddo ym mha cwm a lleolir y Bathdy oni bai ei fod yn gwm yng Nghymru.

Cafodd Llantrisant ei gyhoeddi fel y lleoliad newydd ar gyfer y Bathdy Brenhinol yn Ebrill 1967. Yn fuan ar ôl hynny, dechreuodd clirio’r safle ac erbyn Awst roedd adeiladu wedi dechrau. Addawodd y Dirprwy Feistr, Jack James, y bydd ‘yr adeiladau newydd yn tyfu o gefn gwlad Cymru yn darparu, am y tro cyntaf mewn degawdau, digon o le ac yn caniatáu’r cyflwyniad o ffatri fodern yn defnyddio dulliau newydd’.

Edrychwch ar leoliadau posibl
UK Map UK Map
Llantrisant
Belfast
Stoke
Cumbernauld
Caerwent
Y Pil
Washington Tyne Wear
Runcorn
Pen-y-Bont
Harlow
South Shields
Durham
Lochaber
Edinburgh
Dysgwch rhagor am yr ail-leoliad i Gymru
Dewis y Lleoliad

Symud i Lantrisant

Penodwyd 15 Chwefror 1971 fel y dyddiad i ddechrau’r system arian degol ac felly roedd angen i’r Bathdy newydd fod yn weithredol mor gyflym ac oedd yn bosib. Cafodd y garreg sylfaen ei gosod gan James Callaghan yn Chwefror 1968 a symudodd y gwaith ymlaen yn digon cyflym fel gall y Frenhines agor y Bathdy ym mis Rhagfyr y flwyddyn hynny. Dechreuodd cynhyrchiad darnau arian ½c, 1c a 2c ar unwaith, gyda Llantrisant yn cynhyrchu dros 1,400 miliwn o ddarnau arian yn y flwyddyn gyntaf.

I ddechrau, dibynnodd Llantrisant ar gyflenwad o weigion arian o Tower Hill a mannau eraill ond yn Gorffennaf 1971, rhoddodd y Llywodraeth cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen adeiladu newydd er mwyn gwneud y Bathdy yn hollol hunangynhaliol. Bydd hwn yn cynnwys uned toddi, triglo a llenwi yn ogystal â chreu labordai, siopau, gweithdai a bloc gweinyddiaeth. Cafodd y stribed metel cyntaf ei fwrw yn Llantrisant yn Nhachwedd 1974, a chafodd ail ran y prosiect ei gwblhau erbyn haf 1975.

Yn raddol, arafodd cyhyrchiad yn Tower Hill. Yn Nhachwedd 1975, cafodd y darn arian olaf ei daro yn Tower Hill a chafodd yr hen safle ei waghau yn gyfan gwbl ar ddiwedd 1980.

Close
Llundain i Llantrisant

 

Map the move to Wales
Y symud i gymru

 

 

Watch the construction the new Royal mint

Gwyliwch adeiladu’r Bathdy Brenhinol newydd

 

Adeiladu’r Bathdy Brenhinol cyntaf

Yn Awst 1967, dechreuodd gwaith ar ddau adeilad concrît yng nghefn gwlad Cymru, milltir neu ddau o ganol Llantrisant. Yma fydd gweigion metal yn cael eu hanelio, piclo a glanhau cyn cael eu bathu mewn i ddarnau arian a’u pacio er mwyn cael eu dosbarthu.

 

Creu tref newydd

Yn ogystal ag ychwanegu at hanes a thraddodiad y tref, wnaeth adleoliad y Bathdy Brenhinol cynnig gwaith i’r rhai oedd yn byw yn ardal Llantrisant, yn arwain at adfywiad mwy eang i’r tref.

Roedd papurau newydd ar y pryd yn adrodd bydd y Bathdy Brenhinol yn cynnig i fyny at 1,000 o swyddi. Dywedodd James Callaghan bydd rhwng 750 a 1,000 o ddynion yn cael eu cyflogi gan Y Bathdy Brenhinol. Yn 1968, roedd yn bosib y gall ail-leoliad Y Bathdy Brenhinol cynnig 10,000 o swyddi yn Ne Cymru.  

 

 

 

Ar ddiwedd 1968

Ar ddiwedd 1969

Rhagfyr 1970

 

Y pryd hynny a nawr

Symudwch y sglefriwr i weld yr ardal o gwmpas y Bathdy yn 1947 ac heddiw

After: Y pryd hynny a nawr

Oes gennych chi unrhyw luniau o’r 50 mlynedd diwethaf? Ychwanegwch eich hatgofion a dewch yn ran o’n archif.

Eich hatgofion

 

Pobl

Dysgwch am y pobl oedd yn hanfodol i’r Bathdy yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn Llantrisant.

Digwyddiadau

Dysgwch am y digwyddiadau yn nodedig i ddatblygiad y Bathdy yn Ne Cymru.

Cynhyrchiad

Dysgwch sut gafodd yr arian degol newydd ei gynhyrchu a dosbarthu.