“Mae’r 1/2c newydd yn gyfatebol i 1.2d, mae’r 1c gwerth 2.4d ac mae’r 2c yn gwerth 4.8d o dan ein system ariannol presennol.”
South Wales Evening Post, 11 Mehefin 1968
Y dasg gyntaf yn Llantrisant oedd i greu stôr o’r darnau arian efydd newydd mewn paratoad ar gyfer diwrnod newid i’r system degol yn 1971. Roedd y systemau llwytho awtomatig yn yr adeiladau bathu ac anelio newydd yn wahanol iawn i’r hen arferion yn Llundain, lle oedd sawl peiriant semi-awtomatig yn bathu arian gyda dosbarthiad â dwylo.
Roedd technoleg newydd yn Llantrisant yn meddwl bod y dulliau yma yn gallu cael eu perfformio yn awtomatig. Roedd cludwyr bwced sigledig, codwyr parhaol, beltiau cludo a hopranau crynswth yn mudo gweigion i fewn i hopranau oedd yn eu ffiltro yn uniongyrchol i’r gweisg bathu er mwyn cael eu streicio gyda phatrymau degol.
Trwy wneud hyn i gyd, erbyn Awst 1969, roedd Llantrisant yn gallu cyrraedd y targed o greu 50 miliwn o ddarnau arian degol pob wythnos.