Dewis y lleoliad
Erbyn yr 1960au, roedd safle’r Bathdy Brenhinol yn Llundain yn leoliad anaddas gan fod yn gyfwng am le ac yn llawn hen gyfarpar. Roedd wedi bod angen ailadeiladu am rhai flynyddoedd ond pan ddaeth y cyhoeddiad yn 1966 bod Prydain am newid i system arian degol, gyda’r angen am gannoedd o filiynau o ddarnau arian newydd, roedd angen gwneud rhywbeth. Nid oedd ehangu’r adeilad yn Tower Hill yn bosib ac felly daeth y penderfyniad i ddod o hyd i leoliad newydd tu allan i Lundain. Erbyn Ionawr 1967, roedd 20 safle wedi cael eu hystyried ac yn y diwedd roedd restr fer yn cynnwys saith lleoliad.
Ar y restr hon oedd Llantrisant yn Ne Cymru, dim ond ychydig o filltiroedd o Gaerdydd. Roedd hwn yn ddigon agos i Lundain i demtio staff i ail-leoli, gyda digon o le a digon o weithwyr ar gael. Yn ychwanegol, roedd gan y prosiect cefnogaeth James Callaghan, oedd fel Canghellor y Trysorlys, hefyd yn Feistr y Bathdy, ac hefyd yn AS i Gaerdydd. Dywedodd bod dim ots ganddo ym mha cwm a lleolir y Bathdy oni bai ei fod yn gwm yng Nghymru.
Cafodd Llantrisant ei gyhoeddi fel y lleoliad newydd ar gyfer y Bathdy Brenhinol yn Ebrill 1967. Yn fuan ar ôl hynny, dechreuodd clirio’r safle ac erbyn Awst roedd adeiladu wedi dechrau. Addawodd y Dirprwy Feistr, Jack James, y bydd ‘yr adeiladau newydd yn tyfu o gefn gwlad Cymru yn darparu, am y tro cyntaf mewn degawdau, digon o le ac yn caniatáu’r cyflwyniad o ffatri fodern yn defnyddio dulliau newydd’.
Edrychwch ar leoliadau posibl