Yn ei rôl fel sefydliad Prydeinig pwysig, mae’r Bathdy yn Llantrisant wedi chwarae rhan allweddol mewn dathliadau cenedlaethol a lleol. Mae darnau arian wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer jiwbilïau brenhinol, priodasau a phen-blwyddi yn ogystal â digwyddiadau, fel yr amrywiaeth enfawr o ddarnau arian a gynhyrchwyd ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2012.
Yn 1986, dathlodd y Bathdy Brenhinol 1,100 mlynedd o fathu trwy cydnabod y cysylltiad oedd yn ein clymu i Lundain amser Alfred the Great. Er mwyn nodi’r achlysur, agorwyd arddangosfa teithiol, syniad gan Dirprwy Feistr, Jeremy Gerhard, yn Llundain gan Tywysog Philip cyn teithio i Gaerdydd, Leeds, Rhydychen, Caeredin, Belfast ac Antwerp. Yn ei blwyddyn cyntaf, teithiodd fersiwn llai o’r arddangosfa i’r Unol Daleithiau.
Yn y cyfamser, mae pen-blwyddi lleol wedi cael eu dathlu hefyd ac ar gyfer pen-bwydd Siarter Tref Llantrisant yn 650 oed, cynhyrchodd y Bathdy Brenhinol medal coffaol. Dylunwyd y medal gan engrafwr Bob Evans ac mae’n cynnwys saethyddion Llantrisant yn ystod brwydr Creçy a chynrycholiad artistig o’r dre ar y bryn.