Mae gweithgareddau traddodiadol, fel gwneud medalau a seliau, wedi parhau yn Llantrisant. Mae medalau ymgyrch wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer pob gweithred amlwg milwyr Prydeinig dros y 50 mlynedd diwethaf, gan gynnwys rhyfeloedd yn y Falklands, Irac ac Affganistan. Yn ychwanegol, mae medalau clodfawr fel y Croes George, y Groes ar Gyfer Dewrder Amlwg a’r Seren Arctig i’r rhai wnaeth gwasanaethu ar lyngesau peryglus i Rwsia yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn ogystal â’r addurniadau milwrol a sifilaidd ar gyfer y Deyrnas Unedig a thramor, mae’r Bathdy yn cynhyrchu amrywiaeth fawr o fedalau gwobr a choffaol ar gyfer cymdeithasau dysgedig a chwmnioedd preifat. Mae rhain yn cynnwys grŵp bach o medalau y Wobr Frenhinol wedi eu gwobrwyo gan y Frenhines, tra oedd y medalau mwyaf amlwg ar gyfer y Gemau Olympaidd Llundain a’r Paralymics yn 2012.
Dirprwy Feistr y Bathdy yw ex officio Engrafwr Seliau Ei Mawrhydi ac yn y cymhwyster hwn mae’r Bathdy wedi darparu amrywiaeth o seliau swyddogol, gan gynnwys un Llywodraeth Cymru. Cawsom hefyd y fraint o ddarparu Sêl Fawr y Deyrnas newydd i gymryd lle yr un gwneuthwyd ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines ac roedd wedi cael ei ddifrodi gan ddefnydd hir.